Transcribed from the 1896 Hughes A’i Fab Swyddfa’rLlenor edition by Jane Gammie. Some additional proofing byDavid Price,
GAN
OWEN M. EDWARDS.
I. | DOLWAR FECHAN. | VII. | CAER GAI. |
II. | TY COCH. | VIII. | CEFN BRITH. |
III. | GERDDI BLUOG. | IX. | GLAS YNYS. |
IV. | PANT Y CELYN. | X. | TY’R FICER. |
V. | BRYN TYNORIAD. | XI. | Y GARREG WEN. |
VI. | TREFECA. | XII. | TY DDEWI. |
Gwrecsam:
HUGHES A’I FAB, SWYDDFA’RLlenor.
1896.
I.—DOLWAR FECHAN,—Cartref Emynyddes.
Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan,yn un o’r hafannau bychain gwyrddion sydd rhwngLlanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y Fyrnwy. GorsafLlanfyllin yw’r agosaf.
Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw ynAwst 1805.
II.—TY COCH,—Cartref Pregethwr.
Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronirgan adfeilion castell Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yngnghanol Meirion.
Ganwyd Robert Thomas (Ap Vychan) yma, mewntlodi mawr; a chyn marw, Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod ynbregethwr enwog ac yn athraw duwinyddol.
III.—GERDDI BLUOG,—Cartref Bardd.
Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchbendyffryn cul a rhamantus, y mae’r Gerddi Bluog. OHarlech neu Lanbedr yr eir yno.
Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol credgwlad, arch-ddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithyddmelodaidd y Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog.
IV.—PANT Y CELYN,—Cartref Per Ganiedydd.
Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin